Hanes yr Orendy
Adeiladwyd yr orendy ym Mharc Margam i ddal casgliad mawr o goed orennau, lemonau a sitrws eraill, a etifeddwyd gan y teulu Talbot gan eu rhagflaenwyr, y teulu Mansel. Ni wyddys am sicrwydd beth yw tarddiad y coed hyn, ond mae chwedlau'n awgrymu mai anrheg i'r goron oeddent yn wreiddiol. Wrth iddynt gael eu cludo dros y môr, cafodd y llong ei dryllio ar yr arfordir ger Margam a hawliwyd y coed gan y teulu Mansel. Nodwyd sawl fersiwn ar y chwedl gan deithwyr a oedd yn crwydro trwy Gymru ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif i chwilio am harddwch pictiwrésg, ac a gyhoeddodd ddisgrifiadau o'u teithiau. Mae'r Frenhines Elizabeth I, Siarl I, gwraig Siarl II Catherine o Braganza a gwraig William III, y Frenhines Mary oll yn ymddangos mewn amrywiadau ar y stori.
Erbyn canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd y casgliad sitrws yn cynnwys oddeutu can coeden a oedd yn cael eu cadw mewn sawl tŷ gwydr yn y parc. Cynllun beiddgar Thomas Mansel Talbot oedd adeiladu'r orendy presennol, sy'n 327 o droedfeddi o hyd, i gadw'r casgliad cyfan. Ym Mhrydain, roedd angen gwarchod coed orennau rhag gerwinder ein tywydd gaeafol ond ym misoedd yr haf roeddent yn gallu dygymod â'r awyr agored ac roeddent yn cael eu defnyddio i addurno gerddi ffurfiol y cyfnod. Fel adeilad mae'r orendy'n arbennig o ymarferol: yn hir ac yn gul gyda chyfres o 27 ffenest dal i alluogi golau'r gaeaf i dreiddio trwyddynt. Roedd y wal gefn ddiaddurn yn cynnwys lleoedd tân, a gynhyrchai aer poeth a oedd yn symud trwy ffliwiau. Yng nghanol yr adeilad roedd y drws uchel i alluogi symud coed llawn dwf i'r ardd.
Roedd perygl y byddai golwg undonog ar adeilad o'r fath hyd, ond llwyddwyd i osgoi hyn trwy driniaeth greadigol i'r ffasâd. Mae carreg wedi'i weithio'n ddwfn, gyda charreg nadd i'w chydbwyso, yn dal golau a chysgod yn llinellau llorweddol bythol newidiol y plinth sy'n cael eu pwysleisio'n gryf. Mae'r rhes o garreg nadreddog, uchderau cydweddus y meini clo, ffris y triglyffau, a'r rhes o yrnau cerfluniedig ar y nenlin oll yn creu ymdeimlad o undod a chydbwysedd. Ym mhen yr adeilad mae pafiliynau carreg feddal wedi'u haddurno â sgrolwaith wedi'i cerfio'n gain sy'n cael eu goleuo gan ffenestri Fenis.
Roedd y garreg a ddefnyddiwyd i adeiladu'r orendy yn cael ei thorri'n lleol, yn chwarel Thomas Mansel Talbot ei hun yn y Pîl. Roedd y dynion a naddodd y garreg yn gweithio o dan y pen-saer maen William Gubbings, un o'r crefftwyr a oedd yn gweithio'n gynharach ar y fila ym Mhenrhys o dan bensaer Talbot, Antony Keck.
Mae cofnodion manwl a gadwyd gan Hopkin Llewellyn, stiward yr ystâd, yn disgrifio adeiladu'r orendy o 1786 i 1790 ac yn cofnodi crynhoi'r deunyddiau. Daeth y garreg, y tywod a'r coed o diroedd Talbot ei hun a daeth y brics o odynnau'r gwaith copr. Roedd pren trwm, gwydr a llechi'n cyrraedd mewn llongau ac yn cael eu dadlwytho ym mhorthladdoedd bach y Drenewydd yn Notais, Taibach a Chastell-nedd.
Ar ôl gosod y to, dechreuodd y gwaith o blastro y tu mewn i'r orendy. Cafodd pafiliwn y gorllewin ei addurno'n gywrain â bwâu a gwyddfid o blastr, a ffris o lampau hynafol a griffoniaid. Dyluniwyd yr ystafell hon i fod yn llyfrgell ac yn stiwdio. Roedd triniaeth pafiliwn y dwyrain yn fwy cynnil ac roedd yr ystafell yn cael ei defnyddio i arddangos y marmor, y cerfluniau a'r penddelwau hynafol a brynodd Thomas Mansel Talbot yn yr Eidal, casgliad a arhosai ym Margam nes ei chwalu mewn arwerthiant ym 1941. Ym 1973, pan brynwyd yr ystâd gan Gyngor Sir Morgannwg, roedd yr orendy yn adfail. Bedair blynedd yn ddiweddarach, cwblhawyd gwaith i adfer yr adeilad hardd hwn ac fe'i hagorwyd gan y Frenhines ym mlwyddyn ei Jiwbilî Arian. Heddiw defnyddir yr ystafell achlysuron ar gyfer cynadleddau, partïon a dawnsfeydd ysblennydd. Mae rhan o'r adeilad yn orendy o hyd ac fe'i defnyddir ar gyfer arddangosfeydd. Mae'r pen dwyreiniol (y Gelli) yn dal casgliad bach o goed orennau hyd heddiw.
Erbyn hyn, Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot sy'n gyfrifol am reoli'r adeilad ac mae wedi parhau â'r rhaglen adfer.